Unverified

Gwefan Trenau Arriva

01:01 Aug 18 2012 Pencadlys Trenau Arriva Cymru

Description
Wrth ddewis yr opsiwn Cymraeg a cheisio prynu tocynnau neu chwilio am amserau trenau, er bod yr enwau lleoedd bellach yn dod yn Gymraeg, dyw'r wefan ddim yn eu hadnabod nhw wrth glicio trwodd i'r cam nesa (sydd yn uniaith Saesneg) i gael gweld yr amserlenni. Cefais yr ebost canlynol oddi wrthyn nhw pan gysylltais i sôn am hyn.

Annwyl ######

Diolch am eich neges e-bost yn dwyn i’m sylw yr anawsterau yr ydych wedi’u cael wrth geisio prynu’ch tocynnau ar lein gan ddefnyddio’r opsiwn Cymraeg.

Hoffwn ymddiheuro gan fod y system prynu tocynnau ar wefan Trenau Arriva Cymru wedi’i seilio ar gronfa ddata Codau Gorsafoedd Rheilffyrdd Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ac yn tynnu enwau’r gorsafoedd o’r un gronfa ddata sy’n darparu’r wybodaeth a gaiff ei hargraffu ar y tocynnau.

Ar hyn o bryd mae ein gwaith ar-lein yn cael ei reoli drosom gan drydydd parti a byddai unrhyw newidiadau i’r system gyfredol yn golygu costau sefydlu sylweddol nad yw’n fasnachol ymarferol i ni eu hystyried ar hyn o bryd heb ragor o gyllid oddi wrth drydydd parti.

Er gwybodaeth i chi, ychydig o rwymedigaethau mae ein Masnachfraint yn eu gosod ynglŷn â darparu gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid. Mae’n dweud bod yn rhaid i unrhyw gyfathrebu yn Gymraeg, boed yn gyhoeddiadau, arwyddion, gwybodaeth ac ati, oedd yn bodoli cyn dechrau ein Masnachfraint yn 2003 barhau. Rhaid i unrhyw welliannau neu ychwanegiadau ystyried y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer cyfleusterau newydd.

Hyderaf fod yr esboniad rwyf wedi’i roi uchod wedi egluro cyfyngiadau gweithredol ein system prynu tocynnau bresennol. Os gallaf roi rhagor o gymorth gyda’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi eto.

Yn gywir

John Haynes
Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid
Trenau Arriva Cymru

Yn ogystal, er bod peth o'r wefan yn ddwyieithog, mae ychydig iawn o wybodaeth ddiweddar yn Gymraeg e.e. cyflwr y rhwydwaith, oedi ayyb.
Credibility: UP DOWN 0
Leave a Comment
Name:
Email:
Comments:
Security Code:
11 + 9 =

Additional Reports

Llyfrgell Rhisga

01:57 Aug 18, 2012

Palas Rhisga, Stryd Tredegar, Rhisga, 0 Kms

Etholiadau Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

13:25 Oct 30, 2012

Urdd Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, 0 Kms

Heddlu Gogledd Cymru

13:55 Nov 18, 2012

Pentrefelin, ger Cricieth, 0 Kms

North Road Medical Practice

13:01 Nov 18, 2012

Caerdydd, CF14 3XQ, 0 Kms

Pwllheli

11:30 Apr 26, 2012

Pwllheli, 0 Kms