Description
Er bod rhyngwyneb Gymraeg i beiriant twll yn y wal HSBC Caerfyrddin i'r sawl sy'n gwsmeriaid a'n defnyddio cerdyn HSBC, fel cwsmer Natwest dim ond rhyngwyneb Saesneg sydd ar gael i mi. Hwn yw'r twll yn y wal agosaf i mi, ac mae un Natwest yn bell pen draw'r dre. Mae pobl yn aml yn defnyddio'r esgus nad yw'r Cymry yn 'defnyddio' gwasanaethau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, tybed a ydw i felly yn ymddangos yn eu hystadegau fel person yn HSBC Caerfyrddin sydd wedi 'dewis' y rhyngwyneb Saesneg, er nad oes dewis arall ar gael i mi!
| Credibility: |
 |
 |
2 |
|
Leave a Comment