Beth ydi hwn?

Yn syml mae hon yn wefan ar gyfer casglu a mapio gwybodaeth am ddefnydd y Gymraeg mewn busnesau, sefydliadau a lleoliadau gwahanol. Gallwch nodi cwyn neu ganmoliaeth. 

Mae'n lleoliad benodol, felly rhaid i chi roi pin ar y map, ond gallwch chi bostio llun, fideo neu roi disgrifiad pellach hefyd. 

Allwn ni dim rhoi cwynion cyffredinol am wefannau, neu lythyrau a ddaeth yn y post os nad oes ganddoch chi gyfeiriad y swyddfa gynhyrchodd y wefan / anfonodd y llythyr. 

Y gobaith ydi y bydd yn declyn hawdd a defnyddiol ar gyfer casglu llu o wybodaeth a thystiolaeth i'w gyflwyno i sefydliadau, cwmniau ac ati am wendidau neu gyrfderau eu defnydd neu driniaieth o'r Gymraeg. 

Mae'r wefan yn arbrawf ar hyn o bryd, ond plis triwch o allan er mwyn gweld os oes potensial yma. Fasa'n wych cael adborth o unrhyw fath. Rydyn ni wedi cyfieithu llawer o'r wefan yn barod ac yn aros i Crowdmap ei roi'n fyw.

Os ydych chi eisiau gwneud cwyn swyddogol i'r Comisiynydd ar gyfer yr iaith Gymraeg gallwch wneud hynny ar eu gwefan

Diolch yn fawr! 

Rhodri ap Dyfrig